"Unbelievable. To walk into a pub and listen to someone playing the harp...a real privilege" (Gregg Lynn, Yr Hwntws)

17.11.12

Albym newydd / New Album: "Awen ac Aber"



+++Bilingual post, please scroll down for English text - thanks. +++

Rwy'n falch iawn i gyhoeddi fy ail CD, sef "Awen ac Aber", yr wythnos hon. Mae'r albym yn benllanw ar ddwy flynedd o waith paratoi, ac un gig byw (Yn Y Drwm, Aberystwyth). Mae'r albym hefyd yn ryw fath o deyrnged i dref Aberystwyth - sef rhywle rwy'n siwr sydd yn annwyl iawn i ni am wahanol rhesymmau.

Mae'r albym ar gael yma trwy wefan EBAY, neu trwy gysylltu gyda fi'n bersonol (gweler manylion cyswllt ar  y wefan hon). Rydw i hefyd ar Facebook a Twitter. Bydd yr albym yn cael ei lawnsio yn gig "Cwpwrdd Nansi" ym mar caffi Gwdihŵ, Caerdydd, Nos Fercher 21ain. Rwyf hefyd yn gobeithio cynnal digwyddiad mewn perthynas â'r Lolfa rhywle yn ardal Aberystwyth ar Nos Iau, Dachwedd 29ain.

Cost y CD yw £10+  P&P Rwy'n gwybod bydd hyn braidd yn ddrud i rhai, yn enwedig mewn dirwasgiad "trebl dip"!. Ond, nid yw costau cynhyrchu a dyblygu CD yn rhad. Gan i mi werthu fy CD cyntaf y llynedd am £5 yn unig, rwy'n teimlo'r tro hwn bod angen hawlio £10 er mwyn gwneud y cost a'r ymdrech yn wetrth chweil.

Ond rwy'n barod i daro bargen...

1) Archebwch "Awen ac Aber" yn ogystal ag "Alawon o'r Stryd" (fy CD cyntaf) am dim ond £13 gan gynnwys Post a chludiant. (Pris arferol £15 + P&P)

2) Prynnwch "Awen ac Aber" - a soniwch am y CD ar eich dudalen Facebook neu Twitter - ac fe gewch chi post a chludiant AM DDIM.

SUT I DALU: 

1) Defnyddiwch PayPal ar y dudalen Ebay.

2) Anfonwch siec gyda'r arian priodol at: Carwyn Tywyn, 16 Heol Gwendraeth, Porth Tywyn, Sir Gaerfyrddin SA16 0AN. 

Diolch!

*****************************************************************************


I'm very pleased to release my second CD, "Awen ac Aber" this week. The album is the culminaiton of two years' busking, gigging and studio work between 2010-12, and was recorded in a single live gig at Y Drwm theatre at the National Library of Wales, Aberystwyth. The album is in many ways a tribute to the town of Aberystwyth, which I am sure is a very special town to many of you, for different reasons.

The album is available here at EBAY, or by contacting me personally at the contact details given on the blog. I'm also on Facebook and Twitter. The album will be launched at the "Cwpwrdd Nansi" gig at the Gwdihŵ cafe bar, Cardiff, on Wednesday 21st November. I also hope to do an event in partnership with Y Lolfa somewhere in the Aberystwyth area on Thursday night, November 29th.

The regular price of the CD is £10 + P&P. I know this will seem a bit expensive to some people, particularly in a "triple dip recession"! However, the costs of creating a CD are not cheap. As I only charged £5 for my first CD, I feel that I deserve to ask for £10 on this occasion to make the cost and effort worthwhile.

However, I'm willing to strike a bargain...

1) Order "Awen ac Aber" and "Alawon o'r Stryd" (my first CD) together, for just £13, inclusive of P&P (normal price would be £15 PLUS P&P).

2) If you buy "Awen ac Aber" for £10, and share the news about the CD on Facebook or Twitter, you will receive your CD with free P&P!

How to pay:

1) Use the PayPal facility at the Ebay site

2) Please send a cheque with the appropriate amount to: Carwyn Tywyn, 16 Heol Gwendraeth, Burry Port, Carmarthenshire, SA16 0AN.
 

Thanks!

Gyda ddiolch  - fel arfer - am eich cefnogaeth. 

With many thanks, as always, for your support.






14.5.12

Nôl a Mlaen...


Logo: Tafarn y Llong / The Ship Inn

Edrychaf ymlaen at ganu yng Ngŵyl Nôl a Mlaen, Llangrannog, ar Fehefin 30. Dyma'r pentref lle ces i gyfle ym mis Tachwedd llynedd i chwarae mewn noson fel "support" i'r Hwntws yn Nhafarn y Llong. Y tro hwn, byddaf yn crwydro "nôl a Mlaen" rhwng Tafarn y Llong, a'r Pentre Arms, gyda'r delyn fach. Bosib byddaf yn dod â'r gitâr mas or atig am y  tro cyntaf mewn blynyddoedd, hefyd! Dyma hefyd bydd y cyfle cyntaf i mi chwarae fy alaw newydd, o'r enw "Tafarn y Llong", yn Nhafarn y Llong ei hun! Rwy'n deall bod Meic Stephens ar y rhaglen, felly mae'n addo noson ddifyr o grwydro...

I look forward to playing in the "Gŵyl Nôl a Mlaen" (Back and Forth) Festival in Llangrannog on June 30th. This is where I had an opportunity last year to play as support act for Yr Hwntws in The Ship Inn. This time, I shall be moving "back and forth" between the Ship, and the Pentre' Arms, with the small harp. For this gig, it's likely that I'll bring the guitar down from the attic for the first time in years! This will also be a first opportunity for me to play me new tune, entitled "Tafarn y Llong" (The Ship Inn), in The Ship itself! I understand that the evergreen Meic Stephens is also on the bill, so it promises to be an interesting night of crawling back and forth...

27.4.12

The Cullivoe Fiddlers





Roeddwn yn falch iawn i gysylltu gydag aelod o'r Cullivoe Fiddlers heddiw, wrth imi baratoi taith o gigs ar Ynysoedd Shetland ym mis Gorffennaf eleni. Mae'n debyg y byddwn yn gallu trefnu sesiwn neu cyngerdd bach ar y cyd ar Ynys Yell. Bellach mae 4 cyngerdd ar y gweill - gobeithiaf gallu sicrhau 5 neu 6 cyngerdd maes o law.

I was pleased to make contact with a member of the Cullivoe Fiddlers today, as I continue to try and prepare a tour of small gigs around Shetland in July. It's very likely that we will be able to put on a joint gig or session on Yell, which is the second largest island. So, I now have 4 concerts in the pipeline, hopefully increasing to 5 or 6 in due course.

Dathlu #GwenerGwerin

"Pam fod eira'n wyn?" Dyna oedd cwestiwn rethregol enwog Dafydd Iwan pan oedd y brwydr mawr dros arwyddion ffyrdd Cymraeg yn ei hanterth ar ddechrau'r 1970au. Fe'm atgoffwyd am geiriau D.I. tra'n ymateb i sylwad ar Trydar (Twitter) oedd yn cwestiynnu pam fod angen sylw neilltuol i gerddoriaeth gwerin ar Radio Cymru. Hynny yw, pam fod angen cwestiynnu rhywbeth a ddylai fod mor hanfodol a naturiol?

Ond, o ystyried yr ymateb cadarnhaol sydd wedi bod i diwrnod "Gwener Gwerin" Radio Cymru heddiw, mae'n argoeli bod yr ymgyrch dros gerddoriaeth gwerin ar y radio am rhedeg cwrs llyfnach na'r frwydr dros arwyddion ffyrdd. Roedd y diwrnod yn teimlo'n surreal ar adegau, fel pe bai ryw fath o coup d'état heddychlon, gwerinol wedi llwyddo i gipio'r tonfeddi radio.

Bydden i wedi hoffi ysgrifennu adolygiad llawn o'r diwrnod cofiadwy hon, ond mae blinder yn fy nhrechu. Ond dyma rhai sylwadau tuag at y ddyfodol...

1. Dim troi nôl. Eisoes, mae'r asiantaeth datblygu gwerin, TRAC, wedi bod yn canfasio syniadau am sut mae symud yr ymgyrch ymlaen o heddiw, diwrnod "Gwener Gwerin". O'r hyn rwy'n synhwyro, byddai cael rhaglen wythnosol (dyweder, 2 awr o hyd?) tebyg i "Folk on 2" (Radio 2) neu "Celtic Heartbeat" (Radio Wales) yn gam cyntaf rhesymol. Mae'n sefyllfa rhyfedd bod mwy o werin Cymraeg i'w glywed ar raglen Frank Hennessey ar Radio Wales nac ar Radio Cymru o wythnos i wythnos. O sefydlu rhaglen Cymraeg o'r fath, byddai cerddoriaeth wedyn yn gallu hidlo trwyddo i'r arlwy dyddiol ar Radio Cymru maes o law.

2. Hunaniaeth y gymuned gwerin. Ar un adeg heddiw, soniwyd am gerddorion gwerin fel "diwylliant tanddaearol" oddi fewn i'r diwylliant Cymraeg / Cymreig. Mae'n amlwg, o'r drafodaeth brwd ar Trydar, a'r trafodaethau bywiog ar y radio o Dŷ Siamas (a effeithiwyd, yn anffodus, gan broblemmau technegol), ac ar Taro'r Post, bod yna ryw deimlad cryf o arwahanrwydd, neu is-ddiwylliant, yn berthyn i garedigion cyfoes y byd cerddoriaeth gwerin Cymraeg / Cymreig. Ryw deimlad sydd gen i bod 'na gymhariaeth hanesyddol i'w wneud gyda'r gymuned Romani, neu, cymhariaeth cyfoes gyda'r mudiuad newydd o ddysgwyr Cymraeg, sydd wedi sefydlu is-ddiwylliant a welir ar ei amlycaf ym mhabell "Maes D" ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol. Efallai 'mod i'n mwydro ychydig fan hyn. Ond roedd yr undod a'r asbri a oedd i'w weld ar Twitter (ar yr hashtag #GwenerGwerin), a'i chlywed ar y radio gan garedigion y sîn werin, wedi codi calon dyn heddiw.

3. Amrywiaeth cerddoriaeth gwerin

Ar adegau heddiw, cefais fy synnu i raddau gan pa mor eang mewn gwirionedd yw'r arlwy o gerddoriaeth gwerin Cymraeg, o'i ddiffinio'n eang, ac o gydnabod y gor-gyffyrddiadau gyda "cherddoriaeth byd", cerddoriaeth acwstig cyfoes, canu roc, canu gwlad ac yn y blaen. Fel cerddor gwerin sydd yn tueddi tuag at arddull traddodiadol, roeddwn wedi bod yn edrych ymlaen at glywed hen ffefrynnau, yn enwedig Ar Log, yn ôl ar y radio. Er mawr syndod imi, fy hoff drac o'r diwrnod oedd "Lisa Lan" gan Colorama. Rwy'n gobeithio bod cyflwynwyr a chynhyrchwyr Radio Cymru hefyd wedi cael yr un syndod wrth fynd drwy eu pethau heddiw. 

4. Diwedd y gân yw'r geiriau...? 

Er holl lwyddiant "Gwener Gwerin", erys problem o ran llwyfanu alawon gwerin offerynnol. Cafodd y bwynt ei chrybwyll yn ystod Taro'r Post, ac fe atebodd y cyflwynydd, Dylan Jones mewn modd hanner-cellweirus "Be'? Dim geiriau!?" Clywais y term "canu gwerin" yn cael ei chrybwyll sawl gwaith gan y gyflwynwyr yn ystod y dydd, ond prin iawn clywais sôn am "alawon gwerin". Fy nghanfyddiad i yw bod cyflwynwyr Radio Cymru yn ofni alawon offerynol gwerin bron i'r un raddau a dead air. Os ydw i'n gywir, mae hyn yn golygu bod cyfran sylweddol iawn o recordiadau gwerin Cymreig am aros yn gudd i'r cyhoedd - gan gynnwys y rhan fwyaf o repertoire Y Glerorfa, a'r cyfan o repertoire artist megis Robin Huw Bowen. 

Ymlaen!



26.4.12

"Gwener Gwerin" / "Folk Friday"

Braf gweld bod BBC radio Cymru yn neilltuo heddiw fel diwrnod "Gwener Gwerin", i ddathlu ein cerddoriaeth gwerin. Fy argraff i yw bod datgysylltiad anffodus wedi digwydd rhwng cerddoriaeth pop a gwerin ers yr "oes aur" honedig cerddoriaeth Cymraeg yn y 1970au a 1980au. Gobeithio bod menter newydd radio Cymru yn cam tuag at asio cerddoriaeth gwerin gyda'r prif ffrwd unwaith yn rhagor. I ddathlu'r achlysur, rwyf yn ail-wampio fy ngwefan (eto!) Mwynhewch pori trwyddi.

Nice to see that Radio Cymru is branding today's programming as "Gwener Gwerin" ("Folk Friday"). Hopefully a first step on the way to making folk once again part of the Welsh language mainstream. To celebrate the occasion, I've stayed up during the night to revamp my blog (again!) Have a browse while you're here.

25.4.12

Taith i Shetland / Shetland trip

Mae fy nhrefniadau ar gyfer taith i Ynysoedd Shetland yng Ngorffennaf yn dechrau disgyn i'w lle. Heddiw, rwyf wedi clywed mwy gan ensemble Ffancytunes sydd wedi mynegi diddordeb pendant mewn gwneud cyngerdd ar y cyd ym mhentref Ulsta ar Ynys Yell. Bellach rwyf wedi cael addewid o leiaf tri cyngerdd tra mod i ar yr ynysoedd yng nganol mis Gorffennaf. Prif pwrpas y daith yw i wasgaru llwch fy nhad (a'r blogiwr, "Maalie"!) yn yr Ynysoedd. Un o weithredoedd olaf fy nhad ar fy rhan oedd prynnu fy nhelyn deires ym mis Tachwedd 2010.

My preparations for a harp tour of the Shetland Islands ar slowly falling into place. Today, I heard back from the amateur ensemble Ffancytunes about doing a concert in the village of Ulsta, on the isle of Yell. I have now got three definite promises of concerts for my week-long visit to Shetland, with more leads to follow. The main purpose of the trip is to scatter the ashes of my father (who was also the prolific Blogger, "Maalie"!). One of my Dad's last actions on my behalf was buying my triple harp in November 2010.

24.4.12

CD Newydd ar y gweill / New CD in the pipeline

Heddiw, rwyf wedi cadarnhau fy nhrefniadau ar gyfer cryno ddisg newydd. Bydd yn seiliedig ar berfformiad byw yn "Y Drwm", Aberystwyth, ar Fehefin 20ain. Rwyf wedi bod yn ffodus i sicrhau cydweithrediad gan gynhyrchydd Cymraeg o safon, ac un offerynnwr gwadd nodedig o'r byd Cymraeg, er mwyn rhoi pob cyfle imi greu recordiad da.

Today, I finalised my preparations for a new CD. It will be based on a live gig at "Y Drwm" at the National Library, Aberystwyth, on June 20th. I have secured the input of an excellent producer, and a respected guest artist from the Welsh music scene, to hopefully give myself every chance of coming up with a decent recording.