"In your hands, the birth of a new day... " (Limahl)

31 August 2010

Dydd Mawrth, Awst 31, 2010


Recordio CD “demo”

Dim bysgio, ond aros lan yn hwyr er mwyn recordio’r CD i’w werthu ar y stryd, gyda dim ond potel o fedd Cernyweg yn gwmni i mi. Dim offer recordio iawn gen i, felly rhaid oedd chwarae popeth mor berffaith ac y gallwn mewn i’r teclun bach hwn. Cymryd 6 neu 7 “take” ar ambell alaw. Yn y diwedd, roedd gennyf 12 o alawon o’n i’n digon bodlon trosglwyddo i’r disgiau blanc.

28 August 2010

Porth Tywyn, £17




Dydd Sadwrn, Awst 28, 2010


Mae’n ugain mlynedd i’r diwrnod ers i mi fynd allan i bysgio am y tro cyntaf! Yn cofio’r achlysur yn iawn: chwarae set o ganeuon gyda’r gitâr ar dop dref Aberystwyth am tua 40 munud. Cyfanswm o £7! Ffortiwn!

27 August 2010

Gig: Boncath, Sir Benfro



Dydd Gwener, Awst 27, 2010

Ces fy hunan mewn i’r picil rhyfedda’ gyda’r henoed prynhawn ‘ma yn esbonio (yn Saesneg)  cân “Dail y Teim”, sef addasiad Cymraeg Dafydd Iwan o’r gân Wyddeleg, “A Bunch of Thyme”, sydd yn sôn am ar angen i ferched cadw eu forwyndod... 

Datblygiad newydd heddiw – prynnu sbŵl o 100 Cryno Ddisg blanc o Tesco, er mwyn cynhyrchu CD yn fy nghartref i werthu ar y stryd. Y syniad yw cadw’r elw o’r CD “Demo” yma er mwyn ariannu recordio CD proffesiynnol, maes o law.

24 August 2010

Gig – Henllan, Ceredigion



Dydd Mawrth, Awst 24, 2010

Yr ail gig yn deillio o’r “llythyron Heather Jones” at y cartrefi henoed. Hen ŵr hoffus (o Gydweli’n wreiddiol) yn mynnu canu “Dafydd y Garreg Wen” rhwng pob un o’m caneuon – gorfod defnyddio sgiliau diplomyddol er mwyn gallu bwrw ‘mlaen gyda rhaglen fy hunan! Croeso twymgalon iawn, a’r cartref yn bwcio dyddiad arall i mi ganu yno: hwb i’r hyder wrth i mi barhau i drefnu’r gigs yn y cartrefi.

23 August 2010

Castell Newydd Emlyn: £21



Dydd Llun, Awst 23, 2010

Y bysgio heddiw wedi effeithio gan glaw, llwyddo i chwarae am tua 90 munud, cyn cael seibiant yng nghaffi “Rhif 11” oedd gyferbyn a’m safle bysgio. Wedyn ymlaen i Aberteifi i rhoi fy ngwers cyntaf fel athro telyn o’r newydd, a hynny i’r menyw a gwrddais yn Aberteifi ar Awst 12.