"In your hands, the birth of a new day... " (Limahl)

4 September 2010

Caerfyrddin: £64 (a 4 CD)



Dydd Sadwrn, Medi 4, 2010

Llun: caffi “A Taste of Cornwall”

Y poster yn siop Millets yn ein hysbysebu bod gostyngiad 75% ar eu nwyddau haf. I mi, dyma hysbysiad moel bod yr haf yn ddirwyn i ben, a’i fod yn 6 mis ers i mi fod mas o waith parhaol, a ‘mod i’n wynebu gaeaf o fysgio am y tro cyntaf ers 2005. Ond, cysur mawr yn y ffaith ‘mod i wedi gwerthu 4 CD felly o leiaf doedd Llandeilo ddim yn ffliwc ddoe. A bydd un o’r CDs a gwerthais heddiw yn mynd i rhywun yn Los Angeles!

Cinio yng nghaffi “A taste of Cornwall” – pasti a chacen gaws. Wyddwn i ddim pa mor agos at Gernyw y bu’r pastis, ond caffi cyfforddus a chyfeillgar dros ben.

Cwrdd â phâr eithaf crachaidd, Seisnig, o ardal Dolgellau oedd yn honni eu bod â ddiddordeb yn yr alawon a’r traddodiadau Cymreig: “...as long as Wales doesn’t try to go it alone.”
Wel sod off ‘te os nag y’ch chi am brynnu’r CD...

3 September 2010

Llandeilo: £27 (a 5 CD)



Dydd Gwener, Medi 3, 2010

Fel arfer, byddai £27 wedi bod yn gyfanswm digon siomedig. Ond heddiw, gwerthais fy 5 CD cyntaf!!! Felly cyfanswm o £52. Hefyd siop grefftau lleol yn cymryd 5 disg gennyf i werthu! Mae pethau’n dechrau symud...

2 September 2010

Porth Tywyn: £17



Dydd Iau, Medi 2, 2010

(Wedyn gig yng nghartref Plas y Môr, Porth Tywyn)

Dyma’r tro cyntaf i mi fynd mas i bysgio gyda’r CD’s ar werth. Roeddwn wedi gosod pris o £10 i gychwyn. Ond, daeth yn glir bod yn rhaid i mi gostwng y pris yn syth i £5, a hynny yn ddilyn sgyrsiau gyda ddwy ddynes gwahanol (un lleol, y llall o Swydd Berkshire) oedd yn frwd iawn dros fy ngherddoriaeth, ond ddim am brynnu’r CD.

Yn y gig, dyma fi’n cymryd y delyn mas o’i cas a rhywun yn ebychu “gosh that’s a small one!” Y jôcs hynaf yw’r rhai gorau ‘sbo...

1 September 2010

Dydd Mercher, Medi 1, 2010




Dim bysgio, ond defnyddio’r diwrnod i gynhyrchu 15 CD. Creu clawr digon amaturaidd gyda phapur a sellotape: bydd hyn yn gorfod gwneud tro nes fy mod yn gallu ariannu rhywbeth gwell: rwyf wedi gosod rheol caeth bod yn rhaid i brosiect y CD talu am ei hunan. Eto i gyd, teimlad digon cyffrous wrth weld y CDs yn eu cloriau mewn pentwr taclus ar y bwrdd: mae creu CD yn fenter y dylswn i fod wedi ceisio gwneud blynyddoedd yn ôl.